Sut i ddefnyddio gwefan hon

- cyngor i reolwyr

 

Beth yw Fframwaith sefydlu Cymru-Gyfan?

Mae'r fframwaith sefydlu Cymru-Gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (AWIF) yn gwrs seiliedig ar lyfrau gwaith sy'n cwmpasu'r egwyddorion, y gwerthoedd a'r sgiliau sydd angen i weithiwr gyflawni eu rol yn gymwys. 

Mae saith adran i'r AWIF, mae gan fod adran log cynnydd a llyfr gwaith i gefnogi'r gweithiwr yn eu dysgu.

Gellir defnyddio'r wefan hon i gwblhau copiau digido o'r llyfrau gwaith. Mae rhagor o wybodaeth am yr AWIF gan gynnwys logiau broses ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Mae angen i fy staff gofrestru a allan nhw ddefnyddio'r AWIF neu ei dystysgrif egwyddorion a gwerthoedd i dangos eu bod yn addas i gofrestru?

O 1 Hydref 2022 ymlaen, nid yw'r AWIF ar egwyddorion a gwerthoedd ar gael bellach fel llwybr i gofrestru. 

Gall eich gweithiwr ddefnyddio'r gwaith a gwblhawyd fel tystiolaeth i wneud cais o dan lwybr asesu cyflogwr. Gall cyflogwr nawr gadarnhau cais eu gweithwyr i gofrestru arol asesu eu dealltwriaeth yn erbyn rhestr of feysydd. Mae hyn ynh cael ei gwblhau fel rhan o'r cais i gofrestru ac nid oes angen unrhyw weithredu ar y wefan hon, i gael rhagor o'r wybodaeth am hyn ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Dechrau arni

Cyn y gall gweithiwr gwblhau ei llyfrau gwaith, bydd rheolwr perthnasol yn ei wahodd i greu ei gyfrif ei hun ar y wefan hon.

I allu gwahodd gweithiwr a gwerthuso gweithlyfrau fel rheolwr, bydd angen i chi greu eich cyfrif eich hun, gan sicrhau eich bod yn dewis opsiwn y rheolwr wrth ymuno. Gallwch wneud hyn trwy fynd i https://www.fframwaithsefydlu.cymru/ymunwch/.

Eich dangosfwrdd rheolwr

Ar ôl i chi greu cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn gallu gweld eich dangosfwrdd rheolwr, sef cyfres o adrannau lle y gallwch gefnogi cynnydd eich gweithiwr gyda’i weithlyfrau.

Enw’r adran gyntaf y byddwch chi’n ei gweld yw Gwahoddiadau E-bost.

Er mwyn i weithiwr defnyddior wefan, bydd angen i chi ei wahodd o’ch dangosfwrdd. Eich cyfrifoldeb chi yw gwahodd gweithwyr i gwblhau’r  llyfrau gwaith, ni allwn wneud hyn ar eich rhan.

Dyma sut olwg sydd ar adran gwahoddiadau eich dangosfwrdd:

O’r fan hon, gallwch ychwanegu enw a chyfeiriad e-bost gweithiwr i anfon e-bost ato gyda dolen bersonol (gan gynnwys cod y rheolwr) er mwyn iddo greu ei gyfrif ei hun. Bydd defnyddio’r ddolen a gaiff y gweithiwr i greu ei gyfrif yn sicrhau ei fod yn gysylltiedig â chi fel y rheolwr sy’n gwerthuso’u gweithlyfrau.

Sicrhewch fod y cyfeiriad e-bost cywir gennych i’ch gweithiwr cyn anfon y gwahoddiad. Rhaid i’ch gweithiwr ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hon bob tro y bydd yn mynd at y wefan yn y dyfodol, gan gynnwys ar gyfer negeseuon atgoffa am gyfrinair.

Mae adran wahoddiadau eich cyfrif yn dangos pwy rydych chi wedi’u gwahodd i’r wefan. Wrth i chi wahodd pobl, byddwch yn gweld eu manylion yn ychwanegu at un o ddwy adran ar y dudalen hon, sef naill ai:

- Gwahoddiadau sy’n disgwyl, sy’n dangos rhestr i chi o’r bobl rydych chi wedi’u gwahodd ond sydd heb greu eu cyfrif eto

Neu

- yr adran Wedi ymuno’n ddiweddar, sy’n dangos y bobl rydych chi wedi’u gwahodd, sydd wedi creu eu cyfrif.

Pan fydd gweithiwr wedi creu ei gyfrif, gan ddewis p’un a yw’n gweithio gyda phlant neu oedolion, rhoddir mynediad iddo at ei weithlyfrau.

Rhaid i’r gweithiwr ateb pob cwestiwn yn ei weithlyfr, a sicrhau bod hwnnw wedi’i arbed, cyn y bydd yn gallu cyflwyno’r gweithlyfr i chi i’w werthuso.

Os bydd gweithiwr eisoes wedi cwblhau’r rhan or gweithlyfr all-lein, a’ch bod chi’n fodlon iddo wneud hyn, gall ychwanegu unrhyw destun at y sgriniau i’w alluogi i’w arbed a symud ymlaen drwy’r safle. Er enghraifft, gallai ychwanegu “cwblhawyd all-lein” fod yn addas. Gellir copïo a gludo testun ym mhob adran fel y gall y gweithiwr gyflwyno’r gweithlyfr.

Er enghraifft:

Rhaid ychwanegu cynnwys at bob cwestiwn ar bob sgrin mewn gweithlyfr er mwyn i’r wefan adnabod bod y gweithlyfr yn barod i’w gyflwyno.

Ar ôl i’r gweithiwr lenwi pob adran a chlicio cyflwyno, bydd y gweithlyfr yn cael ei gloi a bydd statws ‘cael ei werthuso’ arno. Yna, bydd yn dangos yn eich cyfrif, ar eich dangosfwrdd rheolwr, o dan bennawd y gweithlyfrau a gyflwynwyd.

Adran adolygu gweithlyfrau

Mae dwy ran i’r dudalen hon, sef gweithlyfrau wedi’u cyflwyno a rhagwylio cynnydd gweithlyfr.

Mae adran rhagwylio gweithlyfr yn dangos cynnydd y gweithiwr wrth lunio gweithlyfr trwy ganiatáu i chi edrych arno. Ni fydd gweithlyfrau yn yr adran hon sydd ag opsiwn edrych yn unig wedi’u cyflwyno eto i’w gwerthuso gan y gweithiwr; mae hyn yn golygu y gallwch chi fel y rheolwr weld y gweithlyfr ond ni allwch ei werthuso eto.

Ar ôl i weithiwr gyflwyno gweithlyfr, bydd yn symud i fyny yn ardal y gweithlyfrau wedi’u cyflwyno a bydd yn cynnig botwm gwerthuso i chi.

Trwy glicio ar y botwm gwerthuso ar weithlyfr yn yr adran hon, gofynnir i chi werthuso’r dystiolaeth a ddarparodd eich gweithiwr, a naill ai cymeradwyo neu wrthod adrannau’r gweithlyfr. Fe’ch atgoffir mai eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod tystiolaeth gweithiwr yn wir ac yn gywir. Os darganfyddir yn ddiweddarach nad ydych wedi gwerthuso tystiolaeth gweithiwr yn gywir, gallech wynebu honiadau o beidio â chydymffurfio â Chôd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol, a allai arwain at ymchwiliad i’ch addasrwydd i ymarfer.

Nid yw’n orfodol i reolwyr roi sylwadau, ond mae blychau ar gael i chi roi adborth ar y gwaith os dymunwch wneud hynny. Ar ôl i chi benderfynu cymeradwyo adran o weithlyfr a chlicio cymeradwyo, bydd y system yn newid yr adran honno i ddangos ei bod wedi pasio ac ni fydd angen i chi ei gwerthuso eto.

Os ydych chi o’r farn bod adran yn anghyflawn neu mae angen rhagor o wybodaeth arni, dylech glicio ar gwrthod; bydd hyn yn rhoi cyfle arall i’r gweithiwr weld eich sylwadau ac ychwanegu at ei waith. Rhaid i chi sicrhau bod holl adrannau’r gweithlyfr wedi’u gwerthuso (naill ai eu cymeradwyo neu eu gwrthod) cyn y bydd y system yn dychwelyd y gweithlyfr i’r gweithiwr.

Os byddwch wedi gwrthod unrhyw adrannau o weithlyfr, bydd y gweithiwr yn gallu ychwanegu atynt ac ailgyflwyno’r gweithlyfr i chi ei werthuso eto.

Tab arweiniad

Byddwn yn ychwanegu arweiniad a chyhoeddiadau at yr adran hon wrth i ni wneud gwelliannau a diweddariadau i’r wefan.

 

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae gen i weithwyr sydd wedi dechrau'r llyfrau gwaith cyn mis hydref, a fyddan nhw'n cael tystysgrif a sut allan nhw gofrestru?

Ni fydd unrhyw un sy'n gorffen y llyfrau gwaith ar ol 1 Hydref yn derbyn tystysgrif. 

Gallant ddefnyddio eu gwaith gorffenedig fel tystiolaeth i gofrestru ar gyfer llwybr asesu cyflogwr. I gael gwybod mwy am y llwybr asesu gan gyflogwr ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Mae fy ngweithiwr eisoes wedi cyflawni'r dyfarniad egwyddorion a gwerthoedd, ond heb wneud cais eto i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Ar ol 1 Hydref 2022 nid yw'r dystysgrif yn cael ei derbyn i gofrestru, os nad yw eich gweithiwr wedi gwneud cais i gofrestru gan ei defnyddio fel tystiolaeth erbyn 1 Hydref 2022 bydd angen iddyn nhw ddefnyddio un o'r ffyrdd eraill i gofrestru pan fyddan nhw'n gwneud cais am fwy o wybodaeth ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru

Sut rydw i’n newid rheolwr fy ngweithiwr?

I newid rheolwr rhywun, byddai angen i’r gweithiwr gysylltu â ni’n uniongyrchol.

Os bydd angen i weithiwr newid y rheolwr sy’n gysylltiedig â’i chyfrif, gofynnwch iddo anfon e-bost at induction@gofalcymdeithasol.cymru

Yn yr e-bost, bydd angen i’r gweithiwr gadarnhau enw a chyfeiriad e-bost y rheolwr newydd yr hoffai iddo gael ei gysylltu â’i gyfrif.

Mae rhywun wedi gadael ein sefydliad – sut rydw i’n ei ddileu o’m dangosfwrdd?

Byddwch yn gweld croes fechan wrth ymyl enw person ar eich dangosfwrdd; bydd clicio ar hwn yn eich datgysylltu fel rheolwr arnynt ac yn tynnu’r person o’ch rhestr. Os nad yw’r person wedi creu ei gyfrif eto, bydd rheolwr arall yn gallu anfon gwahoddiad ato. Os bydd gweithiwr eisoes wedi creu ei gyfrif, bydd cyfrif y gweithiwr yn parhau i fodoli, ond ni fydd y gweithiwr yn gallu mewngofnodi mwyach; yn hytrach bydd yn gweld neges yn gofyn iddo gysylltu â ni trwy anfon e-bost at sefydlu@gofalcymdeithasol.cymru i’w gysylltu â rheolwr newydd.

Ymhle galla’ i ddod o hyd i’r opsiwn i werthuso gweithlyfr fy ngweithiwr?

Os nad yw gweithlyfrau wedi’u cyflwyno, gellir edrych arnynt yn unig fel y gallwch chi weld cynnydd gweithlyfr. Bydd gweithlyfrau sydd ar waith yn dangos ar eich dangosfwrdd rheolwr o dan adran Rhagwylio cynnydd gweithlyfr.

Dim ond pan fydd gweithiwr wedi gorffen holl adrannau’r gweithlyfr a chlicio ar y botwm cyflwyno y bydd y gweithlyfr ar gael i chi ei werthuso. Ar ôl ei gyflwyno, dylai symud o dan y pennawd Gweithlyfrau wedi’u Cyflwyno ar eich dangosfwrdd rheolwr a bydd yr opsiwn gwerthuso ar gael wedyn.

Os ydych chi’n amau bod gweithlyfr yn gyflawn ond heb ei restru o dan adran ‘Gweithlyfrau wedi’u Cyflwyno’ eich dangosfwrdd, cynghorwn fod y gweithiwr yn gwirio’i fod wedi arbed pob rhan o’r gweithlyfr a sicrhau ei fod wedi clicio ar y botwm cyflwyno er mwyn i’r gwaith eich cyrraedd chi.

Mae gennyf i broblem dechnegol â’m cyfrif; beth ddylwn i'w wneud?

Os oes gennych broblem dechnegol gyda’ch cyfrif, rhowch wybod i ni trwy anfon e-bost at sefydlu@gofalcymdeithasol.cymru; sicrhewch fod eich e-bost yn cynnwys eich enw, y cyfeiriad e-bost a ddefnyddioch i greu eich cyfrif, gwybodaeth am y gwall neu’r broblem, a chadarnhad ynghylch p’un a fyddech chi’n hapus i ni newid eich cyfrinair a mewngofnodi i’ch cyfrif i archwilio ymhellach.

Lawrlwytho copiau o lyfrau gwaith sydd wedi'u cwblhau.

Unwaith y bydd llyfr gwaith wedi'i gymeradwyo'n llawn ac wedi'i ddychwelyd at y gweithiwr, byddant yn gweld botwm o'r enw lawrlwytho yn ymddangos yn eu cyfrif.

Ychwanegwyd y nodwedd hon at bob cyfrif yn dilyn adborth yr hoffai gweithwyr gadw copi o'u gwaith i'w ddefnyddio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd clicio'r botwm lawrlwytho yn agor fersiwn PDF o'r llyfr gwaith wedi'i gwblhau gan gynnwys sylwadau'r rheolwr i'r ddyfais y mae'r person yn ei defnyddio, yna gall y gweithiwr ei arbed a'i defnyddio.

Dylai rheolwyr sy'n dymuno cadw copi o lyfr gwaith eu gweithwyr gysylltu â'u gweithwyr yn uniongyrchol i ofyn am gopi ganddynt.